The Victorian Society returns to Llandudno for national AGM after twenty years

Panoramic view of the pastel coloured seafront houses of St George’s Crescent with North Shore beach and Ormes Bay, Llandudno in the foreground. Photo: Bailey-Cooper Photography / Alamy

Conservation charity will celebrate North Wales’s Victorian heritage and hopes to build stronger links with people across Wales

25th – 27th September 2026

The Victorian Society will return to Llandudno this September, twenty years after it last held its national AGM in the town, for a weekend celebrating the remarkable Victorian and Edwardian heritage of Llandudno and North Wales.

Members of the national conservation charity will travel from across England and Wales for its AGM and a three-day programme of talks, architectural walks and visits from 25th – 27th September.

The Society hopes the weekend will also help strengthen its engagement in Wales. While it has a long history of conservation casework and campaigning for threatened Welsh buildings, the charity wants to build stronger connections across Wales, reach new audiences and encourage more people to become involved in its work.

Welsh buildings have regularly featured in the Society’s annual Top Ten Endangered Buildings campaign. In North Wales they include the Grade I-listed Kinmel Hall near Abergele, one of the country’s most important Victorian country houses, which appeared on the list in 2015 and has been the subject of a long-running campaign over its condition and future.

There have also been notable successes. Plas Alltran in Holyhead appeared on the Society’s 2020 Top Ten list after decades of dereliction, but has since been sensitively converted into four low-carbon affordable homes. Elsewhere in Wales, former Top Ten buildings including Llanfyllin Union Workhouse, Swansea’s Palace Theatre, Cardiff Coal Exchange and Bute Road Station have subsequently been restored or brought back into use.

But important Welsh Victorian buildings remain at risk. This year the Society included the Grade II-listed Faenol, or Vaynol, Mausoleum near Bangor amongst its 2026 Top Ten Endangered Buildings. Designed by the prominent North Wales architect Henry Kennedy in the late 1870s, the extraordinary Gothic mausoleum is suffering from neglect, vandalism and deterioration.

James Hughes, Director of the Victorian Society, said:

“Llandudno is one of Britain’s great Victorian towns. What makes it so special is not simply a collection of individual buildings, but the remarkable survival of the Victorian resort as a whole – its hotels, streets, chapels and churches, public buildings and historic transport, all set within that extraordinary landscape.

“We are tremendously looking forward to bringing Victorian Society members back to Llandudno twenty years after we last held our AGM here. But we also want the weekend to look forward. The Society has been campaigning for threatened buildings in Wales for many decades, with some wonderful successes achieved, while places such as Kinmel Hall and Faenol Mausoleum remind us how much there still is to do.

“We want to strengthen our connections with members, supporters and local campaigners across Wales, do more to champion its extraordinary Victorian and Edwardian heritage, and encourage more people here to become involved with the Society. Returning to Llandudno seems a very good place to begin.”

The Society’s AGM will take place at Venue Cymru on Friday 25th September. Dr Kathryn Ferry, historian, author and a leading authority on Britain’s seaside heritage, will give the evening lecture exploring the development and architecture of Llandudno. A reception and dinner will follow at the Grade II-listed St George’s Hotel, the first of the grand hotels built on Llandudno’s seafront as the town developed into a major Victorian resort.

On Saturday, members will take part in guided walks exploring Llandudno’s architectural and social history before travelling on the historic Great Orme Tramway, opened in 1902 and the only surviving cable-operated street tramway in Britain.

On Sunday, the Society will travel further into North Wales, to the remarkable Penrhyn Castle before visiting Llanfairfechan, which contains an exceptional concentration of work by the fascinating Arts and Crafts architect Herbert Luck North.

The Society is keen to hear from people across Wales with an interest in Victorian and Edwardian architecture who would like to become more involved in its events, campaigns and conservation work, or to join or support its Wales Regional Group.

Mae’r Gymdeithas Fictoraidd yn dychwelyd i Landudno ar gyfer eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cenedlaethol ar ôl ugain mlynedd

Bydd yr elusen gadwraeth yn dathlu treftadaeth Fictoraidd Gogledd Cymru ac yn gobeithio meithrin cysylltiadau cryfach â phobl ledled Cymru

25th – 27th Medi 2026

Bydd Cymdeithas Fictoraidd Prydain (The Victorian Society) yn dychwelyd i Landudno ym mis Medi eleni – ugain mlynedd ers iddi gynnal ei chyfarfod cyffredinol blynyddol cenedlaethol yn y dref ddiwethaf – ar gyfer penwythnos yn dathlu treftadaeth Fictoraidd ac Edwardaidd nodedig Llandudno a Gogledd Cymru.

Bydd aelodau’r elusen gadwraeth genedlaethol yn teithio o bob rhan o Gymru a Lloegr ar gyfer ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol a rhaglen tri diwrnod o sgyrsiau, teithiau cerdded pensaernïol ac ymweliadau rhwng y 25ain a’r 27ain o Fedi

Mae’r Gymdeithas yn gobeithio y bydd y penwythnos hefyd yn helpu i gryfhau ei hymgysylltiad yng Nghymru. Er bod ganddi hanes hir o waith achos ym maes cadwraeth ac ymgyrchu dros adeiladau Cymreig sydd dan fygythiad, mae’r elusen eisiau meithrin cysylltiadau cryfach ledled Cymru, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac annog mwy o bobl i gymryd rhan yn ei gwaith.

Mae adeiladau o Gymru wedi ymddangos yn rheolaidd yn ymgyrchau blynyddol y Gymdeithas i nodi’r ‘Deg Uchaf’ Adeilad Mewn Perygl. Yng Ngogledd Cymru, mae’r rhain wedi cynnwys plasdy Kinmel  ger Abergele –  adeilad rhestredig Gradd I ac un o dai gwledig Fictoraidd pwysicaf y wlad – a ymddangosodd ar y rhestr yn 2015 ac sydd wedi bod yn destun ymgyrch hirfaith ynglŷn â’i gyflwr a’i ddyfodol.

Bu llwyddiannau nodedig hefyd. Ymddangosodd Plas Alltran yng Nghaergybi ar restr ‘Deg Uchaf’ y Gymdeithas yn 2020 ar ôl degawdau o fod yn adfail, ond ers hynny mae wedi cael ei drawsnewid yn ofalus yn bedwar cartref fforddiadwy carbon isel. Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae adeiladau a fu ar y rhestr ‘Deg Uchaf’ yn y gorffennol –  gan gynnwys Wyrcws Llanfyllin, Theatr y Palace yn Abertawe, y Gyfnewidfa Lô  a Gorsaf Ffordd Bute yng Nghaerdydd – wedi cael eu hadfer neu eu dychwelyd i ddefnydd ers hynny.

Ond mae adeiladau Fictoraidd pwysig yng Nghymru yn parhau i fod mewn perygl. Eleni, cynhwysodd y Gymdeithas Y Beddrod Stâd y Faenol  – adeilad rhestredig Gradd II ger Bangor – yn ei rhestr o’r ‘Deg Uchaf’ Adeilad Mewn Perygl ar gyfer 2026. Cafodd y mawsolëwm Gothig rhyfeddol hwn ei ddylunio gan y pensaer amlwg o Ogledd Cymru, Henry Kennedy, ar ddiwedd y 1870au, ac mae bellach yn dioddef oherwydd esgeulustod, fandaliaeth a dirywiad.

Meddai James Hughes, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Fictoraidd:

“Mae Llandudno yn un o drefi Fictoraidd godidocaf Prydain. Yr hyn sy’n ei gwneud mor arbennig yw nid yn unig ei chasglad o adeiladau unigol, ond y ffaith ryfeddol bod y dref wyliau Fictoraidd wedi goroesi yn ei chyfanrwydd – ei gwestai, ei strydoedd, ei chapeli a’i heglwysi, ei hadeiladau cyhoeddus a’i thrafnidiaeth hanesyddol, oll wedi’u lleoli o fewn tirwedd rhyfeddol.”

‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod ag aelodau’r Gymdeithas Fictoraidd yn ôl i Landudno ugain mlynedd ar ôl i ni gynnal ein Cyfarfod Blynyddol yma ddiwethaf. Ond rydym hefyd eisiau i’r penwythnos edrych tua’r dyfodol. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu dros adeiladau sydd dan fygythiad yng Nghymru ers degawdau lawer, gan gyflawni rhai llwyddiannau gwych, tra bod lleoedd fel plasdy Kinmel a’r Beddrod yn Stâd y Faenol yn ein hatgoffa faint sydd eto i’w wneud.

“Rydym am gryfhau ein cysylltiadau ag aelodau, cefnogwyr ac ymgyrchwyr lleol ledled Cymru, gwneud mwy i hyrwyddo ei threftadaeth Fictoraidd ac Edwardaidd eithriadol, ac annog mwy o bobl yma i gymryd rhan yn y Gymdeithas. Mae dychwelyd i Landudno yn ymddangos yn fan cychwyn da iawn.”

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn Venue Cymru ddydd Gwener 25th Medi. Bydd Dr Kathryn Ferry – hanesydd, awdur ac arbenigwr blaenllaw ym maes treftadaeth glannau môr Prydain – yn traddodi darlith y noson, gan archwilio datblygiad a phensaernïaeth Llandudno. Caiff derbyniad a chinio eu cynnal yn dilyn hynny yng ngwesty Sant Siôr (adeilad rhestredig Gradd II), sef y cyntaf o’r gwestai mawreddog a godwyd ar lan y môr yn Llandudno wrth i’r dref ddatblygu’n gyrchfan Fictoraidd bwysig.

Ddydd Sadwrn, bydd aelodau’n cymryd rhan mewn teithiau cerdded tywysedig sy’n archwilio hanes pensaernïol a chymdeithasol Llandudno, cyn teithio ar Dramffordd hanesyddol Pen y Gogarth – a agorwyd ym 1902 ac sy’n unig dramffordd stryd sy’n cael ei gweithredu gan gebl sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Ddydd Sul, bydd y Gymdeithas yn teithio ymhellach i Ogledd Cymru, i Gastell Penrhyn, cyn ymweld â Llanfairfechan, lle ceir casgliad eithriadol o waith gan y pensaer arddull ‘Celf a Chrefft’ hynod ddiddorol, Herbert Luck North.

Mae’r Gymdeithas yn awyddus i glywed gan bobl ledled Cymru sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth Fictoraidd ac Edwardaidd, ac a hoffai gymryd rhan fwy gweithredol yn ei digwyddiadau, ein hymgyrchoedd a’n gwaith cadwraeth, neu ymuno â’n Grŵp Rhanbarthol yng Nghymru neu ei gefnogi.

Ornate Stairway, Penrhyn Castle. Photo: Henry Ciechanowicz / Alamy

Categorised:

National News

Join The Victorian Society.

The battle to save Victorian and Edwardian buildings is far from over.

Members can read our membership magazine, enjoy priority booking for our events, be part of our regional groups across the country and with many more benefits.

More information